1 Graift y plwyf i greft ai plyg
2 graf iddeigr Gruffudd ogryg
5 ymmannerch teg o mynnai
6 a gair caredig a gai
7 ag oni vynn gevynn gau
8 a vynnwyf a wnaf innau
9 nis gwyr Dduw ym loywrym lais
10 wadu yr hynn addoydais
11 na bai raid dyngnaid dangnef
12 siampl oi wawd gwr simpl yw ef
13 Llyma'r dyst lle mae'r destvn
14 gardd hir yn i gerdd ehvn
15 cynt in gwydd ycant yn gerth
16 cefnir Dudur ap Cyfnerth
17 ym ar march gwydd hydd hoywddaint
18 ag ir organ simpian saint
19 caniad talm cyn oed dolef
20 ceneu taer nog i cant ef
21 pam irai ddivai ddevawd
22 pefr nerth dros dalu gwerth gwawd
23 was dewr hyf i west yrrawg
24 ar Dudur wr odidawg
25 mynned vab i adnabod
26 mvlder glew mold ar y glod
27 ag na vynned ced nid cel
28 ar ddychan arwydd [ ]chel
29 ynvyd yw i wiwsyw was
30 anvon anrhegion rhygas
31 o von holion a helir
32 i mi hyd bryderi hir
33 henw yngwlad ywbro Gadell
34 honneid i gwyr hynn neud gwell
35 ystod oi davod a dyf
36 ysto garth os dig wrthyf
37 deuwn i gyd da vyd vv
38 lowlaw rhwng yn dau lewlu
39 ymbrovwn od ym briveirdd
40 a dau davawd hyrddwawd heirdd
41 a dwygerdd serth digiai son
42 a deugorph fynnedigion
43 [357] a dau davawd breuwawd braw
44 a deulafn dur in dwylaw
45 a gwrdd hwrdd ar heirdd wychdraed
46 ag oryvel a el aed
47 gaded ym idig oedi
48 gwden ym o gadwn i
49 dyrnawd ohirwawd herwa
50 yn rhad gen i dad nid a
51 obydd heb sorri cri cryf
52 digynnen da yw genyf
53 o syr llegwesgyr gwasgwyn
54 o'm dawr gwyn ap Nudd i'm dwyn
Dauid ap Gwilim